Planning, Programming and Delivering a Film Festival / Cynllunio, Rhaglennu a Chyflwyno Gŵyl Ffilm
Thu, 13 Jun
|Swansea
This is a two day course and you must be able to attend both dates. / Mae hwn yn gwrs dau ddiwrnod ac mae'n rhaid i chi allu mynychu'r ddau ddyddiad.
Time & Location
13 Jun 2024, 10:00 – 14 Jun 2024, 17:00
Swansea, The Old Police Station, Llys Glas, 37 Orchard St, Swansea SA1 5AJ, UK
About
Planning, Programming and Delivering a Film Festival
Day One:The key pillars supporting a successful event – infrastructure, finance, marketing, programme. We’ll look at how these elements are interlinked and consider the resources and skills needed to produce a successful film event; Programming – what will make your event appealing to your target audience? Can you find appropriate content? What about licences? What’s the journey you’d like to take your audience on and what else can you offer to add value to the film screenings? Infrastructure – how will you screen your selected films? What about ticketing? And ancillary facilities? How can you make sure you’re being sustainable?
Day Two:Largely working through group practical exercises, we’ll work to plan some small film festivals, building business and marketing plans to support a programme curated by the group. We’ll explore some real-life case studies to help evaluate your plans and hopefully arrive at an understanding of how you can balance the four pillars to deliver a successful event.
Cynllunio, Rhaglennu a Chynnal Gŵyl Ffilmiau
Diwrnod Un:Y conglfeini allweddol ar gyfer digwyddiad llwyddiannus – seilwaith, cyllid, marchnata, rhaglen. Byddwn yn edrych ar sut mae'r elfennau hyn yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn ystyried yr adnoddau a'r sgiliau sydd eu hangen i gynhyrchu digwyddiad ffilm llwyddiannus; Rhaglennu – beth fydd yn gwneud i’ch digwyddiad apelio at eich cynulleidfa darged? Allwch chi ddod o hyd i gynnwys priodol? Beth am drwyddedau? Ar ba daith yr hoffech chi arwain eich cynulleidfa a beth arall allwch chi ei gynnig i ychwanegu gwerth at y ffilmiau sy’n cael eu dangos? Seilwaith – sut fyddwch chi'n dangos y ffilmiau rydych chi wedi’u dewis? Beth am docynnau? A chyfleusterau ategol? Sut allwch chi sicrhau eich bod yn gynaliadwy?
Diwrnod Dau:Gan weithio'n bennaf trwy ymarferion grŵp ymarferol, byddwn yn mynd ati i gynllunio ambell ŵyl ffilmiau fach, gan adeiladu cynlluniau busnes a marchnata i hybu rhaglen wedi'i churadu gan y grŵp. Byddwn yn trafod rhai astudiaethau achos go iawn i helpu i werthuso eich cynlluniau a gobeithio dod i ddealltwriaeth o sut y gallwch chi gydbwyso'r conglfeini er mwyn cynnal digwyddiad llwyddiannus.